P-04-320 Polisi Tai Cymdeithasol

Geiriad y ddeiseb

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i adolygu ei pholisi tai cymdeithasol mewn perthynas â phoblogaeth frodorol y wlad.

Cefndir

Cynigwyd y ddeiseb hon gan Adam Brown, a chasglwyd 45 o lofnodion. Mae gwybodaeth ategol a ddarparwyd gan y deisebwyr wedi’i chynnwys isod.